Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cymru ar Ddiwygio Ariannol                23 Medi

Cadeirydd: Darren Millar (DM)

Siaradwr: John Rogers (JR) www.valueforpeople.co.uk

Pwnc: Ai Myth yw Cyni Ariannol?

DM: Pwrpas y Grŵp Trawsbleidiol yw codi ymwybyddiaeth am y problemau a achosir gan y system ariannol ac i edrych ar ddewisiadau eraill. Mae’n cyflwyno Bethan Jenkins AC (BJ) a’i Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol.

 BJ: Mae’r Bil hwn yn rhoi asgwrn cefn deddfwriaethol, addasu at y dyfodol ac yn cynnwys Addysg Ariannol mewn ffordd drawsgwricwlaidd. Mae canlyniadau PISA yn tynnu sylw at yr angen am well addysg yn y maes fel bod pobl ifanc yn tyfu i fyny gyda’r sgiliau cywir a dealltwriaeth dda o faterion ariannol. Nid yw’r Bil yn rhagnodol a bydd y dehongliadau yn agored i’r arbenigwyr. Nid yw’r strategaethau presennol ar gyfer cynhwysiant ariannol wedi cael eu diweddaru ers 2010.

Manteision y Bil yw y bydd yn helpu i osgoi trapiau dyled, benthycwyr diwrnod cyflog ac ardaloedd galwyr diwahoddiad a bydd yn helpu i atal y cynnydd yn nifer y siopau betio. Bydd yn arwain at well ymgysylltiad rhwng darparwyr addysg a chymunedau a gallai sicrhau mynediad am ddim i addysg mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.

Mae pedwar cyfnod ac rydym wedi pasio cyfnod un. Hyd yma, mae pryderon gan awdurdodau lleol o ran costau ond mae llawer o ymgysylltu yn mynd rhagddo drwy arolygon ac ymgynghori. Mae cymdeithasau tai lleol yn awyddus i ganfod y budd uniongyrchol i ddefnyddwyr. Mae lle o hyd i addasu’r Bil yn y Pwyllgor felly rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â diddordeb yn y Bil. Byddai busnesau yn elwa gan y bydd gweithwyr newydd yn gyfarwydd â chod treth ac elfennau eraill o ddeunydd ariannol. Cafwyd llwyddiannau wrth gyflwyno entrepreneuriaeth mewn ysgolion hefyd.

DM: Diolch, Bethan. Rydym nawr yn croesawu John Rogers o ymgynghoriaeth Value for People.

JR: Roedd yn gyfrifol am redeg LETS De Powys o 1993 a Sefydliad Arian Cyflenwol Cymru, Casnewydd yn 2000 gyda Geoff Thomas sydd bellach yn gweithio i Spice Time Banking. Mae wedi cyhoeddi llyfrau yn edrych ar astudiaethau achos ac arfer gorau yn People’s Money and Local Money: What Difference Does It Make?.

The Map – How to Out Your Local Economy? Mae’n hawdd gwirioni gydag arian cyfred a dulliau arfer cyfred, ond gall problemau godi am resymau o’r fath gan nad ydym yn gwybod ble mae pethau, nid oes gennym ffordd o gymharu prisiau na chysylltu â darparwyr nwyddau a gwasanaethau os nad ydym yn gwybod eu bod yn bodoli.

Nid oes unrhyw sail foesol nac economaidd dros gyni ariannol. Yn ôl yr Athro Mark Blyth, mae cyni ariannol yn niweidiol. Mae swyddogion hawliau lles yn gweld lefelau ofnadwy o dlodi yn y DU.

Mae Cynulliad Cymru wedi bod yn ymrwymedig i gynaliadwyedd ers 1999 ond rydym yn dal i ddefnyddio gwerth 1.5 planed o adnoddau. Dyma ein gallu i gynnal bywyd ac mae o dan fygythiad difrifol o hyd.

Pam bod angen map arnom? Rydym yn taflu bwyd i ffwrdd pan gellir ei roi i ffwrdd, ei ailgylchu neu ei gompostio. Mae archfarchnadoedd ond yn ailgylchu 2% o’u gwastraff. Rydym mewn perygl o daflu pobl i ffwrdd hefyd. Rydym yn wynebu problemau tebyg i Ddirwasgiad Mawr 1930 o ran bod gennym oll yr un adnoddau h.y. tir, llafur, deunyddiau ac ati, ond nid oes gennym ddigon o’r hyn rydym yn ei alw’n arian. Mae Edgar Khan yn sôn am y cymorth anweledig a’r economi craidd fel y rhan y chwaraewyd gan famau a neiniau a theidiau a mentrau cymunedol eraill.

Gall mapiau gwael arwain at ddryswch a thrychineb. Mae camddeall y diriogaeth yn arwain at arweinyddiaeth gwael. Roedd hen fapiau yn amddiffynnol, gan farcio parthau a ffiniau. Gall mapiau digidol fod yn ddefnyddiol a chynhwysol gan helpu i gysylltu anghenion neu ddymuniadau nad ydynt wedi’u diwallu gydag adnoddau sydd heb eu defnyddio.

Gall mapiau helpu i gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr yn lleol ac yn fyd-eang. Gall busnesau byd-eang wneud y gorau o gapasiti ac allbwn a gall rhwydweithiau cymdogaethau lleol a busnesau lleol ffynnu. Meddyliwch yn fyd-eang a mapiwch yn gymdeithasol. Gall mapiau fod yn fwy na rhestr o sefydliadau, gallant ddweud wrthym nodau, amcanion, gwasanaethau ac anghenion.

Pwy sydd ar y Map? – Pedwar Chwaraewr Economaidd:-

·         Unigolion

·         Busnesau

·         Grwpiau gwirfoddol

·         Llywodraeth Leol

Ble mae’r map yn cwmpasu? – Strydoedd, pentrefi, trefi, rhanbarthau – creu grwpiau ac is-grwpiau

Gall cyflwyno arian cyfred cymunedol fod yn gymhelliant i greu gweithgarwch lle nad oedd gweithgarwch o’r blaen, i gynyddu gweithgarwch cadarnhaol ac i wobrwyo a chymell gweithgarwch sydd o fudd i’r gymuned. Ymysg enghreifftiau o arian cyfred cymunedol neu gyflenwol mae:-

·         Punt Bryste – wedi’i bennu i’r Sterling (e.e. hefyd Brixton, Stroud, Totnes, ac ati.)

·         Mutual Credit Circuit – System Fasnachu Cyfnewid Lleol (e.e. Cardiff Taffs,)

·         Time Banking Network – Spice

·         Regional Crypto-currency – syniadau arloesol newydd fel yr Hull Coin

 Mae’r arian yn cael ei gefnogi gan adnoddau y Map e.e. bydd gan Ymddiriedolaeth Datblygu Creadigol Blaengarw adnoddau a gallai ddefnyddio’r Map i hysbysebu, ymgysylltu a chysylltu o fewn yr ardal a thu allan yr ardal. Unwaith y bydd ardal yn dechrau ar y Map, bydd dinasyddion yn rhyfeddu gan eu sgiliau a’u hadnoddau.

Nid yw Bitcoin yn arian cyfred go iawn o ran nid yw’n dderbyniol fel modd o gyfnewid (eto). Mae’n ceisio datganoli ac mae hynny’n cyflwyno risgiau newydd ac yn cynnig rhai buddion. Y syniad arloesol mwyaf cyffrous, fwy na thebyg, yw’r dechnoleg Blockchain sydd yn awr yn ei gwneud yn bosibl i amgryptio data a’i ychwanegu at y gadwyn. Gyda’r model hwn, nid oes angen i chi ymddiried mewn unrhyw unigolion, mae’n rhaid i chi ymddiried yn y rhwydwaith er mwyn i’r system weithio.  Gallai hyn gynnig mwy o gymwysiadau yn y dyfodol wrth i dechnoleg ddatblygu.

Pryd i ddefnyddio’r Map?

Rhwydwaith ar gyfer amseroedd da, rhwyd ddiogelwch ar gyfer amseroedd drwg, pan fo gennym amrywiaeth o adnoddau neu pan fyddant yn gyfyngedig ac amser yn brin. Mae’r systemau hyn yn gweithio orau pan fyddant yn dechrau’n fach ac wedi’u gwreiddio yn y gymuned. Rydym yn wynebu argyfwng fel planed, felly mae brys i wneud newidiadau a chanfod atebion. Mae gennym yr offer a’r dechnoleg ond mae diffyg gwybodaeth ac ewyllys.

Oes unrhyw un erioed wedi mapio/arolygu adnoddau Cymru? Rydym yn hynod o ffodus i gael cyfoeth o ran ein tirwedd a’n diwylliant.

Mae mapiau yn annibynnol ar yr arian cyfred, ond gellir eu defnyddio’n effeithiol i wella pa mor ddefnyddiol yw cwpon neu gynlluniau pwyntiau gwobrwyo yn ogystal â mathau eraill o arian cymunedol a drafodwyd.

Ni allwn fapio unrhyw beth ymlaen llaw. Mae’n gyd-esblygol ac mae angen ei addasu.

Gwrthwyneb prinder yw gormodedd nid digonedd. Ni fydd y Map yn creu gormodedd o adnoddau ond gall helpu i gysylltu dymuniadau/anghenion heb eu diwallu gydag adnoddau heb eu defnyddio fel y gallwn gyflawni digonolrwydd cynaliadwy a chryfhau’r bondiau sy'n ymuno â ni fel rhwydwaith a chymuned.

Diolch am wrando.

 

Gweld y sioe sleidiau

Lawrlwytho pamffled

Prynu’r llyfrau

Local Money – What Difference Does it Make?

People Money – the Promise of Regional Currencies